Mae RABI yn rhybuddio bod gwybodaeth anghywir ynghylch ei hailstrwythuro diweddar mewn adroddiadau a sylwebaethau’r wythnos hon yn achosi pryder diangen i bobl sy’n ffermio sy’n agored i niwed.

Nododd Alicia Chivers, Prif Weithredwr RABI:

“Mae teuluoedd ffermio’n cysylltu â ni ar ôl darllen y sylw diweddar yn y cyfryngau a’r sylwebaeth ar-lein, am eu bod yn gofidio nad yw RABI ar gael iddyn nhw bellach. Mae hyn yn gwbl anghywir, ac rydw i eisiau tawelu meddwl pawb drwy ddweud bod ein holl gymorth a’n gwasanaethau ar gael o hyd ledled Cymru a Lloegr.”

Mae’r honiadau sy’n cael eu cylchredeg, yn cynnwys awgrymiadau bod y cymorth rhanbarthol wedi dod i ben a bod deg swydd wedi’u colli, yn hollol anghywir. Er bod ychydig aelodau o’r tîm gwirfoddoli wedi gadael RABI, mae conglfaen cymorth lleol RABI, y Rheolwyr Cymorth Rhanbarthol (RhCRh) yn dal yn eu lle a heb eu heffeithio.

“Mae’r cydweithwyr ymroddgar hyn yn darparu cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol un i un,” ychwanegodd Alicia. “Y rhain yw’r bobl sy’n eistedd gyda theuluoedd ffermio o gwmpas y bwrdd cegin, ac yn trefnu cwnsela, sicrhau budd-daliadau heb eu hawlio, a helpu pobl sy’n ffermio gyda’u heriau anoddaf. Mae eu gwaith wrth galon yr hyn a wna RABI ac mae’n parhau’n ddigyfnewid.

Rydym yn cydnabod bod colli’r rheolwyr gwirfoddoli’n debygol o deimlo’n heriol i’r rhai hynny sydd wedi cydweithio’n agos â nhw, ac mae clymau emosiynol cryf rhyngddynt. Rydym yn dra diolchgar i’r cydweithwyr hynny am eu gwaith, ac am y gefnogaeth barhaus gan wirfoddolwyr RABI. Mae gan bawb yr hawl i fynegi eu barn, fodd bynnag mae’n gwbl annerbyniol bod honiadau anghywir neu gynhyrfiol yn cael eu lledaenu yn y cyfryngau ac ar-lein gan greu’r perygl na fydd pobl yn teimlo’n hyderus i ofyn am gymorth pan fod ei angen arnynt fwyaf.

Mae’n flin gennym fod camwybodaeth wedi peri gofid i rai o’r bobl a gefnogwn, ac er ein bod yn sicr nad dyna oedd bwriad y rhai hynny sy’n rhannu eu barn, gofynnwn i bobl fod yn ymwybodol o’r effaith mae hyn yn ei gael ar y gymuned ffermio ehangach.”

Pwrpas yr ailstrwythuro yw cryfhau a thyfu cymorth RABI, ac nid ei leihau. Mae’r elusen yn pwysleisio mai ei nod yw ehangu’r cyfleoedd gwirfoddoli, adeiladu presenoldeb mwy cyson mewn cymunedau gwledig, a chynyddu’r capasiti codi arian fel y gall wasanaethu mwy o deuluoedd ffermio yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r mesurau newydd yn cynnwys:

  • Mwy o gymorth i bwyllgorau, gyda rolau cliriach, prosesau cyson, a gwell mynediad at adnoddau.
  • Cyfleoedd newydd i gymryd rhan, fel Llysgenhadon Cymunedol, Gwirfoddolwyr Sioeau, a Chodwyr Arian Cymunedol.
  • Presenoldeb lleol cryfach mewn sioeau, digwyddiadau a chyfarfodydd ledled Cymru a Lloegr.
  • Twf a buddsoddiad, yn cynnwys cynlluniau i dreblu’r incwm codi arian cymunedol erbyn 2030 ac ehangu niferoedd y gwirfoddolwyr i dros 1,000.

Ychwanegodd Alicia:

“Mae RABI wedi bod yn cefnogi pobl sy’n ffermio am 165 o flynyddoedd ac mae’r ymrwymiad hwnnw’n ddiysgog. Dydy newid fyth yn hawdd, ond gwnaed y penderfyniadau hyn i sicrhau y gallwn gyrraedd mwy o bobl yn fwy effeithiol, a darparu’r cymorth cywir ar yr amser cywir. Dyma fy neges i bob ffermwr, gweithiwr fferm a theulu ffermio: os ydych chi angen RABI, rydyn ni yma i chi.”