Mae RABI yn bodoli i wasanaethu pobl sy’n ffermio ac rydym yn benderfynol o wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, cynaliadwy, ac ystyrlon posibl. Dyna pam rydym yn gwneud newidiadau i’n strwythur, nid yn unig i arbed arian, ond i fwyhau gwerth pob punt a wariwn ac i sicrhau bod ein gwasanaethau a’n cymorth i bobl sy’n ffermio ledled Cymru a Lloegr yn creu newid cadarnhaol, cyson ble bynnag mae ei angen fwyaf.

Am flynyddoedd lawer, rydym wedi cefnogi gwirfoddolwyr i ddod at ei gilydd fel grwpiau pwyllgor rhanbarthol. Mae’r pwyllgorau hyn yn cyflawni pethau gwych ar draws yr ardaloedd hynny lle maen nhw’n gweithredu. Ond mewn ardaloedd helaeth o Gymru a Lloegr, nid oes yna bwyllgorau gwirfoddolwyr na chyfleoedd i bobl ymglymu wrth gefnogi neu wirfoddoli dros RABI.

Yn ogystal â gwneud newidiadau a fydd, yn ein barn ninnau, yn sicrhau bod ein gwirfoddolwyr presennol yn fwy cymwys, gyda rolau cliriach, cefnogaeth gryfach, a mwy o gyfleoedd i gyfrannu mewn ffyrdd sy’n gweddu i’w bywydau a’u sgiliau, mae’r newidiadau hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau y bydd gwirfoddolwyr RABI ar gael ym mhob cymuned ffermio ledled Cymru a Lloegr yn y dyfodol. Nid yw hyn yn golygu cael gwared â’r hyn sy’n bodoli eisoes, ond yn hytrach, datblygu agweddau ar wirfoddoli sy’n lleol, yn gyson, yn effeithiol ac yn gynaliadwy.

Rydym yn cydnabod bod y newidiadau a wnawn yn golygu colli ychydig aelodau o dîm RABI, a bod rhwymau emosiynol dwfn rhyngddynt â’r gwirfoddolwyr a’r cymunedau lle maen nhw wedi gweithio. Mae’r gwirfoddolwyr a’r rhwydweithiau hyn yn gysylltiadau lleol pwysig a deallwn na allwn, ac na ddylwn eu colli, felly rydym yn ymrwymedig i gefnogi a datblygu rhwydweithiau newydd o fewn strwythur wedi’i ddiwygio sy’n cydbwyso cryfder perthnasoedd â’r angen am effeithlonrwydd a darpariaeth gyson.

Mae’r cyfleoedd o’n blaen yn sylweddol. Bydd y strwythur newydd yn cryfhau cysylltiadau lleol a rhanbarthol, yn sicrhau mwy o gynrychiolaeth mewn digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol, ac yn lledaenu neges gyson ar draws Cymru a Lloegr. Bydd hefyd yn ein helpu i amlygu a chefnogi’r ymrwymiadau lleol niferus sy’n digwydd bob dydd ond sydd yn aml yn anweledig ar y lefel genedlaethol. I grynhoi, mae’n rhoi cyfle i ni ehangu cyrhaeddiad ac effaith RABI mewn ffyrdd mwy cydgysylltiedig, mwy gwybodus.

Mae hyn yn ymwneud â thwf, nid lleihad; ag atgyfnerthu, nid cilio. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pob ffermwr, ble bynnag maen nhw’n byw, yn cael yr un cyfle i ymgysylltu â gwasanaethau a chymorth RABI. Trwy wneud y newidiadau hyn nawr, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer sefydliad cryfach, mwy cysylltiedig – a all wasanaethu’r gymuned ffermio’n fwy effeithiol, nawr ac yn y dyfodol.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ein Rheolwyr Cymorth Rhanbarthol – sy’n hanfodol i’r cymorth a roddwn fel elusen. Byddant yn parhau i ddarparu gwasanaeth a chymorth uniongyrchol i’r gymuned ffermio.

Sut rydyn ni’n cryfhau ein cymorth

  • Mwy o gymorth i bwyllgorau gyda rolau cliriach, prosesau cyson, a gwell mynediad at adnoddau.
  • Cyfleoedd newydd i gyfrannu fel Llysgenhadon Cymunedol, Gwirfoddolwyr Sioeau, a Chodwyr Arian Cymunedol.
  • Presenoldeb lleol cryfach gyda chynrychiolaeth fwy cyson mewn sioeau, digwyddiadau a chyfarfodydd ledled Cymru a Lloegr.
  • Cydgysylltu’n well, yn cynnwys rhannu arfer gorau a rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol i wirfoddolwyr.
  • Twf a buddsoddiad trwy anelu at dreblu’r incwm codi arian cymunedol erbyn 2030 a chael dros 1,000 o wirfoddolwyr yn ein rhwydwaith.
  • Canolbwyntio ar y dyfodol i sicrhau bod mwy o ffermwyr a’u teuluoedd yn gwybod am wasanaethau RABI ac yn gallu eu cyrchu pan fod eu hangen arnynt.