Angen cymorth?

Rydym ni yma i helpu pobl gyffredin gyda phethau cyffredin.

Rhowch alwad inni ar ein Llinell Gymorth. Mae’n rhad: 0800 188 4444; neu ar e-bost help@rabi.org.uk

Mae nifer gynyddol o’r gweithlu yn holi am gymorth. Rywun neu rywbeth arall, yn amlach na heb, yw gwraidd y gofid. Dyma rai o’r resymau cyffredin dros droi atom: tywydd enbyd, salwch, damweiniau, haint ar y creaduriaid, anawsterau teuluol, marwolaeth. Deallwn yn iawn sut y gall amgylchiadau ein llorio. Yn aml iawn, bydd hwb bychan o gefnogaeth yn ddigon i unioni pethau.

Mae llawer o bobl heb fod yn ymwybodol o’r hyn y mae ffermwyr yn ei wneud. Rydym ni’n wahanol. Fe wyddom ni’n iawn gymaint o her yw ffermio – a dyw’r heriau hynny ddim yn cilio hyd yn oed wedi ichi roi’r gorau iddi. Dyma’r rheswm rydym ni’n cefnogi’r rheini sydd wedi ymddeol neu’n methu gweithio oherwydd salwch, damwain neu anabledd.

Hawdd iawn yw dangos ‘cymeriad’ trwy  balu ‘mlaen, dal ati, peidio grwgnach, peidio cydnabod y broblem. Ond yn ein barn ni mae’n ddewrach o lawer gydnabod ei bod yn hwyr glas i godi’r ffôn a holi am gymorth.

A’r esgid yn gwasgu, does dim angen ichi deimlo’n euog eich bod chi’n holi am help. Nid ymhonwyr yw’r rheini rydym ni’n eu cefnogi – ond yn hytrach ffermwyr o’r iawn ryw, gweithwyr fferm, gwragedd, gwŷr a gweddwon; a’r rheini wedi gwneud cyfraniad clodwiw i’r diwydiant amaeth.