Cymorth cynghori personol i ffermwyr

Mae siarad â rhywun sy'n deall y materion a wynebwch yn gallu helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Dyna pam mae RABI wedi cyflwyno cynghori iechyd meddwl personol i bobl sy'n ffermio.
Mae'r gwasanaeth am ddim newydd hwn yn darparu:
- Mynediad at gynghorydd proffesiynol o fewn 24 awr
- Does dim angen atgyfeiriad clinigol
- Cymorth a gyflwynir gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy'n deall pa mor anodd mae ffermio’n gallu bod
- Mae cymorth cyfrinachol wyneb yn wyneb ar gael yn eich cartref neu mewn man ble byddwch yn teimlo'n gyfforddus, neu dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda
- Mae ar gael am ddim i'r holl bobl sy'n ffermio
Pa bryd bynnag y byddwch yn barod i siarad, ffoniwch ein llinell gymorth rhadffôn 24/7 – 0800 188 4444.
Neu, gallwch anfon e-bost at help@rabi.org.uk
Os nad ydych yn teimlo'n barod i siarad â rhywun mewn person, mae gwasanaeth cynghori ar-lein RABI drwy negeseuon testun ‒ Kooth i bobl ifanc 11 i 17 oed, a Qwell, i bobl dros 18 oed ‒ ar gael hefyd yma.

Mae pob person sy'n ffermio yn cyfrif ac yn haeddu cael ei glywed
Mae’n bwysig ein bod yn darparu atebion a all fynd i'r afael â'r lefel isel o les meddyliol yn ein cymuned. Gan fod dros draean o bobl sy'n ffermio yn dioddef iselder ysbryd o bosib neu’n bendant, rydym eisiau helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn drwy ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gyrchu cymorth cyfrinachol, am ddim.
