Hyfforddiant iechyd meddwl ar gyfer y sector ffermio



Mae cael yr hyder i ddechrau sgyrsiau ynglŷn ag iechyd meddwl gyda theulu, ffrindiau, cydweithwyr, cwsmeriaid neu gleientiaid yn sgìl y mae angen i ni ei ddatblygu.

I helpu pobl yn ein cymuned i deimlo'n fwy hyderus wrth siarad â'i gilydd ynglŷn â sut maen nhw'n teimlo, rydym wedi lansio hyfforddiant iechyd meddwl achrededig / ardystiedig sydd wedi'i deilwra'n arbennig i bobl sy'n ffermio. Mae hwn yn gam pwysig tuag at normaleiddio'r sgyrsiau ynglŷn â llesiant ffermwyr.

Rydym yn credu bod meddu ar yr offer cywir i ddechrau siarad am iechyd meddwl yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Gall hyfforddiant oresgyn y rhwystrau a helpu i sicrhau bod pobl sy'n ffermio sydd angen cymorth ychwanegol yn gallu ei gyrchu'n haws.

Ynglŷn â'r hyfforddiant

Mae tair lefel o hyfforddiant pwrpasol ar gael sy’n canolbwyntio ar ffermio, yn cynnwys cyrsiau hanner diwrnod, un diwrnod a dau ddiwrnod. Mae'r rhain yn cael eu darparu gan ein partner, Red Umbrella, sy’n ddarparwr arbenigol ar gyfer cynghori iechyd meddwl a hyfforddiant cymorth cyntaf.

Er mwyn sicrhau bod y rhaglen hyfforddi mor hyblyg a hygyrch â phosibl, rydym yn treialu'r hyfforddiant gan Ofqual (achrededig) ac MHFA Lloegr (ardystiedig).

Yn dibynnu ar eich gofynion, gall hyfforddwyr fynychu mewn person, neu'n rhithiol pe byddai'n well ganddynt.


Gwasanaeth ôl-ofal unigryw

Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnwys gwasanaeth ôl-ofal unigryw i bob un sy'n derbyn hyfforddiant. Fyddwch chi fyth ar eich pen eich hun wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd.

Gan fod gosod lles pobl ar y blaen ac yn ganolog i bopeth, mae ein partner hyfforddi yn darparu cymorth ar alwad gan gynghorwyr proffesiynol i'r holl hyfforddeion. Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion drafod eu profiadau, dadlwytho, a derbyn cyngor ychwanegol pa bryd bynnag mae ei angen, fel na fydd neb yn gorfod ysgwyddo’r baich ar ei ben ei hun wrth gynnal sgyrsiau anodd.

Helpu i feithrin mwy o wydnwch yn ein cymuned ffermio

Wrth gyflawni hyfforddiant iechyd meddwl, rhoddir sicrwydd ychwanegol y bydd cymorth ôl-ofal yn cael ei ddarparu. Bydd hyn yn helpu mwy o bobl ar draws y byd ffermio i gael yr hyder i drafod ein hiechyd meddwl a'n lles. 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â mentalhealthtraining@rabi.org.uk a bydd un o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion.